P-06-1396 Cyflwyno trwydded e-sigaréts ar gyfer siopau e-sigaréts pwrpasol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Claire ford, ar ôl casglu 541 lofnodion ar lein a 8,494 lofnodion ar bapur, sydd yn wneud cyfanswm o 9,035 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Gall diffyg hyfforddiant a thrwydded achosi i gynhyrchion anaddas a dyfeisiau anghyfreithlon gael eu gwerthu, a all fod yn beryglus a llesteirio'r siawns o roi’r gorau i ysmygu. Mae yna hefyd gynhyrchion fêpio ffug ac anghyfreithlon ar y farchnad nad ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau'r DU, sy'n berygl i'r cyhoedd. Dylai mangreoedd trwyddedig sydd wedi'u hawdurdodi i werthu e-sigaréts helpu i fynd i’r afael â hyn gan eu bod yn prynu'n uniongyrchol gan gyflenwyr trwyddedig, felly ni fydd y cynhyrchion y maent yn eu gwerthu yn rhai ffug neu’n cael eu prynu'n rhad ar y farchnad ddu i wneud elw cyflym.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Rydyn ni am i gynhyrchion fêpio gael eu gwerthu mewn siopau
trwyddedig penodol sydd â staff hyfforddedig sy'n arbenigo
mewn cynhyrchion o’r fath a phob agwedd arall ar fêpio,
yn ogystal â Therapi Disodli Nicotin (NRT), gan gynnwys
gwybodaeth am wahanol gynhyrchion, i'w galluogi i weithio gyda'r
cyhoedd i gynyddu cyfraddau rhoi’r gorau i ysmygu yn
llwyddiannus.
Ar hyn o bryd, mae siopau e-sigaréts yn cydymffurfio â
gofynion Safonau Masnach i’w galluogi i fasnachu. Mae llawer
o staff yn ymarferwyr achrededig y Ganolfan Genedlaethol
Rhoi’r Gorau i Ysmygu a Hyfforddiant, sy’n golygu eu
bod yn gallu rhannu gwybodaeth ymarferol a chyngor am therapi
disodli nicotin.
Mae rhieni'n anhapus gan fod rhai manwerthwyr yn gwerthu
e-sigaréts i bobl ifanc o dan 18 oed. Mae hyn yn
effeithio’n andwyol ar y diwydiant e-sigaréts wrth
iddo weithio tuag at Gymru ddi-fwg. Mae defnyddio e-sigaréts
yn gam tuag at ysmygu, felly nid yw'n rhywbeth y dylai pobl ifanc
fod yn ei wneud.
Gyda chyfraddau llwyddiant mor uchel yn y diwydiant
e-sigaréts o ran helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu, mae
angen cydnabod y diwydiant ac mae’n rhaid cyflwyno trwydded
am resymau diogelwch ac i sicrhau bod e-sigaréts yn cael eu
gwerthu'n gyfrifol.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Blaenau Gwent
· Dwyrain De Cymru